
O Ddigido i Gyd-gynhyrchu: Mewnblannu ymrwymiad cymunedol ym mhrosiectau Dyniaethau Digidol
Watch a video recording of this lecture.
Mae sefydliadau Treftadaeth Ddiwylliannol, gan gynnwys llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau, wedi bod yn cydweithio gydag academyddion ers blynyddoedd wrth lunio prosiectau dyniaethau digidol ac archifau digidol. Mae'r partneriaethau yma wedi cynhyrchu allbynnau gwerthfawr ar gyfer ysgolheictod, ond maent yn anaml yn creu effaith tu hwnt i'r academi. Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod y cysyniad o gyd-gynhyrchu, a sut mae'r gwersi a ddysgwyd gan sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol, a'r cymunedau maent yn gweithio gyda, yn gallu bod o fudd i gymunedau y tu hwnt i'r academi wrth feddwl am ddatblygiad prosiectau dyniaethau digidol yn y dyfodol. Bydd y cyflwyniad yn trafod yn benodol datblygiad cymru1914.org, sef archif ddigidol yn ymwneud â hanes y Rhyfel Byd Cyntaf a'i effaith ar Gymru, fel esiampl o'r dull yma, a thrafod sut gall mewnblannu ymrwymiad cymunedol yn natblygiad prosiect dyniaethau digidol gynyddu ei effaith.
2022
2021
2020
2019
- Home
- Schedule
- Workshops
- Lectures (public)
- Projects (public)
- Poster Session (public)
- Panel (public)
- Teasers (public)
- Cultural programme
- Experts
- Lecturers
- Scientific Committee
- Important dates (new)
- Application
- Scholarships (updated)
- Participation fees
- Refund policy
- T-Shirts
- Child care
- Birthday thoughts












